top of page

Report from Iola (member at Tanycoed Church)

ARDDANGOSFA’R ATGYFODIAD – EGLWYS GWYRFAI – CAPEL TANYCOED

14 – 16 EBRILL 2026

Pnawn dydd Mercher braf, stondinau cymdeithasau, cynhadledd Haf 2025 Aberystwyth, sgwrs fer, taflen wybodaeth, syniad yn cael ei blannu yn y galon a’r dychymyg. Tybed a oedd cyfle yma i ni fel eglwys estyn allan gyda neges yr Efengyl at gymuned a chymdogaeth ardal ein heglwys ni yn Nhanycoed ger pentrefi Llanrug a Waunfawr yng Ngwynedd?

 

Profiad cynnes a braf oedd cael sgwrs gyda Lois Adams yn ystod pnawn y hwnnw yn y Gynhadledd yn Aberystwyth ynghanol y stondinau. Roedd ei brwdfrydedd a’i hasbri dros ei gwaith fel efengylydd creadigol yn amlwg ac yn heintus. Cefais daflen wybodaeth am ei gwaith a’r math o brosiectau efengylu roedd hi’n ymwneud ag o ledled Cymru.

...

Parhawyd y cysylltiad gyda Lois drwy drefnu nifer o gyfarfodydd i drafod y posibilrwydd o gynnal arddangosfa gelf ym mis Ebrill 2026. Roedd y dyddiadau posib pryd y byddai Lois yn rhydd ar ddechrau’r Gwanwyn ac yn dilyn y Pasg, sef y cyfnod yn dilyn Atgyfodiad ein Harglwydd Iesu. Cyfnod a oedd wedi’i liwio gyda themau o fywyd newydd ac o adnewyddiad. Roedd y teitl ‘Arddangosfa’r Atgyfodiad’ felly yn gweddu i’r dim. Felly mentro ymlaen mewn ffydd a wnaethom er nad oedd y ffordd ymlaen yn glir.

 

Fe ddaeth profiad Lois o lywio prosiect o’r fath i’r amlwg yn fuan iawn nid yn unig o ran y gwaith o drefnu a churadu arddangosfa ond hefyd o ran meithrin yr hyder a’r sicrwydd ynom ni fel criw gweddol fach o aelodau bod y cyfan yn bosib. O ble roedd yr holl gelf ar gyfer ein harddangosfa yn mynd i ddod? Ewch ar www.eoscollective.art/projects neu www.loisadams.art i wybod rhagor am faes gwaith efengylu Lois a’r math o brosiectau celf y mae’n gweithio arnynt. Doedd dim problem yn ei meddwl hi ac roedd yn ffyddiog y byddai digon o gelf ar gael ar gyfer ein prosiect ni.

 

Rhan allweddol arall o’r gwaith oedd gweithio gyda’n cymuned ni. Roedd modd rhannu gwybodaeth am yr arddangosfa drwy ein cysylltiadau personol ni fel aelodau ond fe estynnodd yr eglwys wahoddiad penodol i bedair ysgol leol gael bod yn rhan o waith yr arddangosfa – Ysgol Waunfawr, Ysgol Dolbadarn, YsgolLlanrug ac Ysgol Brynrefail. Byddai Lois yn paratoi cyflwyniad o waith celf ar thema’r atgyfodiad ar ffurf gwers gyda gweithdy yn dilyn i’r plant gael mynegi eu hymateb i neges y cyflwyniad. Derbyniodd y pedair ysgol ein gwahoddiad ac fe fu Lois gyda dau wirfoddolwr o’r eglwys yn y pedair ysgol gan ddod â stor o gelf yn ôl ar gyfer yr arddangosfa. Cynhaliwyd gweithdai crochenwaith, gwaith 2D a darluniau bywyd llonydd ynghyd â gwaith animeiddio gyda’r plant dros ystod o oedrannau.

 

Trefnwyd noson i lawnsio’r Arddangosfa ar nos Fawrth y 14eg o Ebrill ac roedd Festri Capel Tanycoed dan ei sang. Roedd cyfle i bawb weld celf yr Arddangosfa ac i fwynhau cyfraniadau gan Miri Siôn, Elidyr Glyn, Alwyn Pritchard, Lois Adams, Parch. John Pritchard ac aelodau o Fand Pres Llanrug ynghyd â gwledd o luniaeth. Roedd awygrylch groesawgar gynnes a chyfeillgar yno a fydd yn aros yn y cof. Bu aelodau’r eglwys weddill y tridie’n gwirfoddoli i fod yn bresennol yn yr arddangosfa gan gynorthwyo Lois wrth gyfarfod a sgwrsio gydag ymwelwyr. Cafwyd sgyrsiau cynnes ac roedd yn fraint cyfarfod y rhai a ymwelodd i weld y gwaith celf. Roedd pob artist wedi cael cyfle i ysgrifennu paragraff am eu gwaith ac roedd ystod y gwaith celf i’w ryfeddu. Daeth sawl cenhedlaeth mewn teulu i weld gwaith eu plant/hwyrion gymaint oedd brwdfrydedd y plant. Cafwyd ymatebion tyner a phersonol i’r darnau celf yn yr holiaduron a diolch am barodrwydd aelodau’r cyhoedd i wneud hyn.   

 

Penllanw’r wythnos oedd oedfa’r Sul pryd y pregethodd William John Roberts ar ffaith a realiti’r Atgyfodiad. Pwy a ŵyr beth a ddaw o’r tystio hyn?

Arddangosfa'r Atgyfodiad, Tanycoed

    Eos.jpg

    Cydweithfa EOS Collective

    Est. 2024

    • Instagram
    bottom of page